O dan y cynigion ar gyfer y Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu newydd, gallai grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru gael cyfle ystyrlon i brynu asedau lleol gwerthfawr cyn iddynt ddiflannu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu, er mwyn ei gwneud hi'n haws i grwpiau cymunedol ledled Cymru ddod yn berchen ar asedau lleol gwerthfawr.
Mae hyn yn golygu y gallai grŵp cymunedol ddod yn berchen ar ganolfan gymunedol, parc neu fan gwyrdd neu hyd yn oed tafarn neu siop yn ei ardal.
O dan y Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu:
- Gallai grwpiau cymunedol enwebu ased i'w gofrestru oherwydd y manteision cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd y mae'n eu rhoi i'r gymuned;
- Gallai asedau a arferai fod yn werthfawr i'r gymuned hefyd fod yn gymwys os oes posibilrwydd realistig o adfer y budd hwnnw.
- Os ydy ased cofrestredig yn cael ei roi ar werth, byddai'r Cynllun yn rhoi hawl i grŵp cymunedol cymwys gael y cynnig cyntaf i'w brynu a chael amser i wneud hynny;
- Ni fydd cofrestru ased yn golygu bod perchennog yn gorfod ei werthu. Dim ond pan fydd y perchennog yn penderfynu ei werthu y bydd gan y gymuned yr hawl i'w brynu.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 4 Ionawr 2027. Anogir grwpiau cymunedol, perchnogion asedau, awdurdodau lleol, busnesau ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn perchnogaeth gymunedol i ymateb.
Bydd yr ymatebion yn helpu i lywio'r polisi terfynol a'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cynllun Hawl y Gymuned i Brynu i Gymru | LLYW.CYMRU.