
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £17 miliwn ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau adfywio a fydd yn trawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Mae'r hwb ariannol yn cynyddu cyllideb Trawsnewid Trefi ar gyfer 2025-26 o £40 miliwn i £57 miliwn i gefnogi rhagor o brosiectau a all gyflawni ein huchelgeisiau adfywio.
Bydd y buddsoddiad hwn yn creu swyddi, yn rhoi hwb i weithgarwch economaidd ac yn rhoi bywyd newydd i’r stryd fawr a chanol trefi ledled y wlad.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, y cyllid wrth ymweld â safleoedd adfywio enghreifftiol yn Wrecsam.
Ar hyn o bryd mae canol Dinas Wrecsam yn elwa ar dros £10 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi, gyda'r gwaith naill ai wedi'i gyflawni neu'n agos at ei gwblhau.
Mae hyn yn cynnwys y Farchnad Cigyddion dan do sydd newydd ei hadnewyddu, a dderbyniodd £2.5 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwelliannau wedi creu darpariaeth manwerthu annibynnol o ansawdd, cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr a gwella bywiogrwydd canol y ddinas.
Mae gwelliannau i’r Stryd Fawr hefyd wedi creu mannau sy'n gyfeillgar i gerddwyr gyda seilwaith gwyrdd ac ardaloedd ar gyfer bariau a bwytai.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17miliwn | LLYW.CYMRU ac Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m.