
Mae'r Bartneriaeth Twf Ynni Gwynt Ar y Môr (OWGP) wedi dechrau sgrinio’r farchnad i ganfod prosiectau buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n gymwys i gael cyllid o dan y cynllun Contractau ar gyfer Gwahaniaeth: Bonws Diwydiant Glân.
Mae'r fenter hon yn hanfodol er mwyn cryfhau cadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr y DU ac ysgogi twf y sector.
Drwy gymryd rhan yn y fenter hon i sgrinio’r farchnad, gallwch:
- Wneud eich cynigion buddsoddi yn fwy gweladwy.
- Cynyddu eich cyfle i sicrhau cyllid Bonws Diwydiant Glân.
- Cyfrannu at dwf cadwyn gyflenwi gwynt ar y môr y DU.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i lunio galwadau cyllido yn y dyfodol. Mae cymryd rhan yn ddewisol ac ni fydd cwmnïau nad ydynt yn cymryd rhan yn y sgrinio dan anfantais yn ddiweddarach.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich prosiectau cadwyn gyflenwi sy'n cydymffurfio â’r Bonws Diwydiant Glân yw 31 Mawrth 2025.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich prosiect, dewiswch y ddolen ganlynol: Cofrestru Diddordeb - CIB Project Market Screening - Offshore Wind Growth Partnership