
Mae prif brynwyr cwmniau teithiau y DU sy'n gwerthu gwyliau yn y DU i ymwelwyr rhyngwladol wedi bod yn teithio o amgylch Cymru yr wythnos hon i brofi arlwy twristiaeth y wlad drostynt eu hunain.
Roedd y daith pedwar Diwrnod, a drefnwyd gan Croeso Cymru ac mewn partneriaeth â UKinbound, yn cysylltu'r prynwyr ag amrywiaeth o fusnesau twristiaeth o bob cwr o Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys atyniadau, cwmnïau golygfeydd a gwestai sy'n awyddus i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol a gweithio gyda'r diwydiant teithio ehangach i wneud hynny.
Yn 2024, croesawodd Cymru 929,000 o ymwelwyr rhyngwladol, gan gynhyrchu mwy na £488 million i economi Cymru a chefnogi miloedd o swyddi yn y diwydiant.
Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau yn ne Cymru â'r Fenni, Castell Caerffili, rhagolwg o ganolfan ymwelwyr Pont Gludo Casnewydd, Gwinllan White Castle a thaith Gardd Llanofer a phrofiad unigryw Persawr Cymru. Yna yn y gogledd taith Blasu Wrecsam, a chyfle i weld Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chrwydro Castell y Waun.
Fe wnaeth y prynwyr hefyd gyfarfod â nifer o gyflenwyr yng Nghymru, gan gynnwys rheilffyrdd treftadaeth, cwmni bysiau, Cadw a Maes Awyr Caerdydd mewn digwyddiadau rhwydweithio yng Ngwesty'r Angel, y Fenni, a dros 70 o fusnesau o Gymru a'r DU o'r economi ymwelwyr rhyngwladol yn stadiwm STōK Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:Cymru yn tynnu sylw at ganolfannau twristiaeth poblogaidd i roi hwb i'r farchnad ymwelwyr rhyngwladol | LLYW.CYMRU.