
Lansiodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, ymgynghoriad Cynllun Dychwelyd Ernes sy’n cyflawni dros Gymru ar safle hanesyddol Ffatri Corona Pop ym Mhorth ar 18 Awst.
Bydd yr ymgynghoriad 12 wythnos, sy'n para tan 10 Tachwedd, yn llywio dull Cymru o weithredu cynllun sy'n cynnwys cynwysyddion diodydd gwydr ac yn blaenoriaethu ailddefnyddio dros ddulliau ailgylchu traddodiadol.
Gyda Chymru eisoes â'r ail gyfradd ailgylchu uchaf yn y byd, mae'r cynllun dychwelyd ernes hwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy gefnogi'r newid i ailddefnyddio, sy'n darparu llawer mwy o fanteision amgylcheddol nag ailgylchu yn unig.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod ailddefnyddio yn lleihau cost deunyddiau i gynhyrchwyr wrth ddarparu llwybrau clir i ddatgarboneiddio. Mae'r ymgynghoriad yn archwilio sut y gall cynnwys gwydr fynd i'r afael â sbwriel, gwella seilwaith ailgylchu wrth fynd, a chreu cyfleoedd economaidd drwy ailddefnyddio.
Mae ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol a gweithdai sector-benodol, wedi llywio datblygiad yr ymgynghoriad. Bydd y cynllun yn ategu'r polisïau amgylcheddol presennol ac yn cefnogi taith Cymru tuag at sero net.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Tachwedd 2025.
Mae'r manylion llawn ar gael yma: Cyflwyno Cynllun Ddychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad chynaliadwy.