Newyddion

Cymru yn denu £4.6 biliwn o fewnfuddsoddiad byd-eang yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Pile of coins and Welsh flag

Wrth i fwy na 300 o uwch arweinwyr diwydiant a busnes baratoi i ymgynnull yng Nghasnewydd i archwilio cyfleoedd buddsoddi cyffrous ledled Cymru, datgelwyd bod y wlad wedi denu £4.6 biliwn o fewnfuddsoddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru, sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW) ddydd Llun 1 Rhagfyr, yn denu buddsoddwyr byd-eang o 27 o wledydd i brofi arloesedd sy'n arwain y byd mewn digwyddiad cyntaf o'i faint ers i Gymru gynnal Uwchgynhadledd NATO yn 2014.

Ers hynny, mae Cymru wedi gweld twf dramatig mewn diwydiannau newydd sydd wedi ffynnu yn ystod y ddegawd diwethaf – fel deallusrwydd artiffisial, ynni glân, lled-ddargludyddion a sectorau creadigol.

Bydd buddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnes a chwmnïau o Gymru yn dod at ei gilydd i arddangos cyfleoedd a meithrin partneriaethau fel rhan o uchelgais y Prif Weinidog i sicrhau buddsoddiad mawr a fydd yn darparu ffyniant hirdymor a mwy o swyddi cynaliadwy o safon i Gymru.

O'r 250 o gwmnïau y disgwylir iddynt fod yn bresennol, bydd 150 o'r rhain yn newydd i Gymru.

Ar hyn o bryd mae 1,545 o fusnesau tramor yn weithredol yng Nghymru, sy'n cyflogi mwy na 176,500 o bobl ledled y wlad.

Yn 2024–25, sicrhaodd Cymru 65 o brosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor – cynnydd o 23% flwyddyn ar ôl blwyddyn a'r ail dwf uchaf yn y DU. Creodd y prosiectau hyn 2,470 o swyddi newydd a diogelu 1,652 yn fwy, yr uchaf o unrhyw ran o'r DU.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymru yn denu £4.6bn o fewnfuddsoddiad byd-eang yn ystod y flwyddyn ddiwethaf | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.