Newyddion

Cymru yn ardal lansio'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg awtonomaidd

Unmanned aerial vehicle against blue sky background

Cymunedau yng Nghymru i gael budd o rolau hynod fedrus wrth i Fargen Twf Amddiffyn £50 miliwn roi hwb i dechnoleg amddiffyn awtonomaidd.

Arwyddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey AS, Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan a’r Ysgrifennydd Gwladol Jo Stevens y Fargen Twf Amddiffyn Cymru gwerth £50 miliwn, a fydd yn gwneud y mwyaf o Gymru fel ardal lansio’r DU ar gyfer technoleg awtonomaidd a systemau digriw, fel ar gyfer defnydd deallusrwydd, gwyliadwriaeth a rhagchwiliad a dronau unffordd.

Bydd y cytundeb yn ehangu mynediad i’r MOD brofi amrediadau ar draws Cymru, gan gynnwys yn MOD Aberporth a gweithio gyda’r Awdurdod Hedfan Sifil a’i gyfatebwyr milwrol, bydd coridorau awyr ar draws canolbarth Cymru hefyd yn ehangu i allu profi systemau o’r awyr digriw gan ddiwydiant a’r lluoedd arfog.

Yn ogystal, bydd yn haws i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael gwell mynediad uniongyrchol i sicrhau contractau amddiffyn drwy wneud yn siŵr bod ganddynt y cliriadau a’r mynediad cywir, gan greu tegwch gyda chwmniau amddiffyn mawr a datgloi doniau Cymru. Bydd hyn yn golygu na fydd SMEs angen mynd drwy Brif gontractwyr i gael mynediad i waith penodol.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymru yn ardal lansio'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg awtonomaidd - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.