Newyddion

Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu weips gwlyb sy'n gynnwys plastig mewn siopau

pack of wet wipes

O 18 Rhagfyr 2026 ymlaen, ni fydd siopau yng Nghymru bellach yn gallu gwerthu weips gwlyb sy'n gynnwys plastig i gwsmeriaid, oni bai am driniaeth feddygol neu ofal.

Mae hyn yn cynnwys ystod o wahanol fathau o weips, o weips babanod i weips glanhau cartref. Nid yw weips gwlyb sydd wedi'u cynllunio neu eu cynhyrchu ar gyfer gofal neu driniaeth feddygol wedi'u cynnwys yn y gwaharddiad. Nid yw cyflenwad busnes-i-fusnes yn cael ei effeithio chwaith. 

Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn y DU eisoes wedi dechrau symud i weips gwlyb di-blastig. 

I'r rhai nad ydyn nhw, bydd angen iddyn nhw wirio a yw unrhyw gynhyrchion weips gwlyb maen nhw'n eu gwerthu'n cynnwys plastig a newid naill ai i gynhyrchion eraill y gellir eu hailddefnyddio neu gynhyrchion di-blastig. 

Bydd angen i fusnesau hefyd wneud yn siŵr bod eu staff yn deall y newidiadau a'r esemptiadau ar gyfer weips meddygol. Bydd gweithredu'n gynnar yn helpu i osgoi dryswch a'r risg o dorri'r gyfraith.

Mae gwledydd eraill y DU yn cyflwyno gwaharddiadau tebyg ar wahanol ddyddiadau.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Gwaharddiad ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig: canllawiau i fusnesau | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.