Newyddion

Cymru i groesawu Tour de France hanesyddol yn ystod ein Blwyddyn Seiclo

Cycling Tour of Britain for Tour De France

Mae Cymru yn barod i groesawu'r Tour de France yn 2027 wrth i fanylion llawn y llwybr cyfan, gan gynnwys cymal Cymru o'r Trallwng i Gaerdydd, gael eu datgelu ym Mharis heddiw.

Bydd y Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2027 a bydd yn cynnwys wyth dringfa a chymal gwib canolradd ar yr A483 ar gyrion tref Llandrindod.

Mae map rhyngweithiol manwl o gymal Cymru, sy'n dangos lleoliad y cymal gwib a'r wyth dringfa wedi'u categoreiddio, bellach i'w weld ar dudalen bwrpasol ar gyfer cymal tri.

Bydd Croeso Cymru yn nodi 2027 fel Blwyddyn Seiclo gyda chefnogaeth ymgyrch flaenllaw, yr offeryn mapio rhyngweithiol cyntaf o'r fath sy'n dwyn ynghyd lwybrau beicio a'n cyrchfannau o'r radd flaenaf, prosiectau gyda busnesau a chymunedau, a chyllid ar gyfer cyfleusterau beicio ledled Cymru. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Gronfa Croeso i Feicwyr gwerth £4.5 miliwn, i wella cyfleusterau a llwybrau beicio ledled Cymru, gan greu gwaddol barhaol o gymal Cymru y Tour de France.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymru i groesawu Tour de France hanesyddol yn ystod ein Blwyddyn Seiclo | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.