Mae'r Senedd wedi pasio Bil i gefnogi datblygiad twristiaeth yng Nghymru a gwella llety ymwelwyr.
Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety ymwelwyr, gan ddechrau gyda llety hunanddarpar, hunangynhwysol, fel bythynnod gwyliau a fflatiau.
Er mwyn cael trwydded, bydd angen i ddarparwyr brofi bod eu llety yn addas ar gyfer ymwelwyr, trwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydan, larymau carbon monocsid, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a'u bod wedi cynnal asesiad risg diogelwch tân a chymryd rhagofalon perthnasol.
Mae'r cynllun trwyddedu yn debygol o ddechrau yn 2029 a bydd yn adeiladu ar y gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr i greu cyfeiriadur cyhoeddus o lety ymwelwyr.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymru i greu safonau newydd ar gyfer llety gwyliau | LLYW.CYMRU ac Trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU.