Newyddion

Cymorth ychwanegol i ffermwyr sy'n barod i adfer natur, gwella ansawdd dŵr a diogelu eu tir rhag llifogydd a sychder

Farm land - Bannau Brycheiniog

Bydd mwy o ffermwyr yng Nghymru yn derbyn cymorth i adfer natur, gwella ansawdd dŵr ac ymdopi â thywydd eithafol.

Yn dilyn defnydd uchel a galw cryf, mae £624,000 yn ychwanegol yn mynd i gynllun Ffermio Bro, sy'n cefnogi ffermwyr i weithio gyda'i gilydd ar gamau ymarferol ar gyfer gwydnwch natur, dŵr a hinsawdd. Mae cyllid ychwanegol yn golygu y gall mwy o ffermwyr ddechrau prosiectau amgylcheddol, i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2027. 

Drwy'r cynllun, mae ffermwyr yn gweithio gyda Thirweddau Dynodedig Cymru a chynghorwyr arbenigol lleol dibynadwy ar brosiectau sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau ffermydd unigol. Mae hyn yn cynnwys adfer cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr a rheoli llifogydd yn naturiol, sy'n arafu llif dŵr ac yn lleihau'r risg o lifogydd. Mae hefyd yn helpu ffermydd i ymdopi â thywydd eithafol a sychder. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cymorth ychwanegol i ffermwyr sy'n barod i adfer natur, gwella ansawdd dŵr a diogelu eu tir rhag llifogydd a sychder | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.