Newyddion

Cymorth ychwanegol gyda chost cynyddol olew gwresogi

radiator, scarf around a yellow house

Mae cymorth ychwanegol ar gael i bobl mewn argyfwng ariannol sy'n wynebu anawsterau gyda chost cynyddol olew gwresogi yng Nghymru.

Rydym eisoes yn darparu cymorth i'r rhai sy'n prynu tanwydd ar gyfer eiddo nad yw ar y grid ac sy'n profi tlodi tanwydd, trwy ein Cronfa Gymorth yn ôl Disgresiwn. Mae'r Gronfa hon yn galluogi unrhyw un sydd â chyfeiriad yng Nghymru ac sydd  dros un ar bymtheg oed ac yn profi argyfwng ariannol annisgwyl i wneud cais am gyfraniad tuag at eu costau tanwydd oddi ar y grid.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ar unwaith swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer olew gwresogi.

Mae'r swm sydd ar gael fesul dyfarniad ar gyfer olew gwresogi yn cael ei godi dros dro o £500 i £750, tra bo'r prisiau'n uwch.

Mae'r amlder o ran darparu'r taliadau hyn hefyd yn cynyddu, o unwaith i ddwywaith mewn cyfnod treigl o ddeuddeg mis, o leiaf dri mis ar wahân. Mae hyn yn cydnabod y ffaith y gallai fod angen cymorth eto ar rai pobl a dderbyniodd gymorth yn gynharach yn y gaeaf.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymorth ychwanegol gyda chost cynyddol olew gwresogi | LLYW.CYMRU.

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.