Newyddion

Cymorth torri costau ac arbed ynni am ddim i fusnesau lletygarwch bach a chanolig yn y DU

hospitality business

Bydd dros 600 o fusnesau lletygarwch bach a chanolig yn cael asesiadau lleihau ynni a charbon am ddim i leihau costau ynni, cefnogi cynhyrchiant a hybu twf fel rhan o dreial 12 mis, wedi'i ariannu'n llawn gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ).

Mae disgwyl i’r treial, sydd wedi'i ariannu gan y llywodraeth a'i ddarparu gan Zero Carbon Services, un o brif gynghorwyr sero net y DU ar gyfer y sector lletygarwch, arbed dros £3 miliwn i fusnesau.

Bydd y cynllun yn cefnogi busnesau i wneud newidiadau cost-effeithiol fel trwsio bylchau o ran inswleiddio, uwchraddio i oleuadau ynni isel neu addasu gosodiadau gwresogi a fydd yn creu arbedion sylweddol dros y flwyddyn.

Bydd treial Lletygarwch Zero Carbon Services yn helpu busnesau lletygarwch trwy roi perchnogion busnesau mewn cysylltiad uniongyrchol ag arbenigedd cynghorwyr ynni a chynaliadwyedd dibynadwy.

Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Britain’s hospitality sector to save £3 million under new scheme - GOV.UK a Zero Carbon Company

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.