Bydd £2.1 miliwn o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod cymorth pwrpasol ar gael i helpu busnesau bach a chanolig ledled Cymru i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) a manteisio i'r eithaf ar ei botensial.
Bydd y cyllid yn grymuso busnesau bach a chanolig, entrepreneuriaid a microfusnesau yng Nghymru i integreiddio AI i'w harferion busnes yn foesegol ac yn effeithiol, gan wella cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd.
Bydd gwasanaeth Busnes Cymru yn derbyn £600,000 i ddatblygu a darparu rhaglen gymorth ar gyfer ymwybyddiaeth o AI a mabwysiadu AI – gan weithredu argymhellion o adolygiadau tymor byr diweddar ar gynhyrchiant busnesau bach a chanolig a mabwysiadu AI.
Bydd £500,000 arall yn cael ei ddarparu i wella'r sectorau twristiaeth a digwyddiadau yng Nghymru yn sylweddol gan ddefnyddio AI. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys Prosiect Peillio Deallusrwydd Artiffisial, gan weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr yng Nghanolfan Hwb Hartree Caerdydd (HCCH) a Sefydliad Arloesi Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd (DTII), i gyflymu'r broses o fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ymhlith trefnwyr digwyddiadau yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys arbenigedd digidol ar gyfer twristiaeth, gyda gweithdai wyneb yn wyneb wedi'u cynllunio i ddarparu sgiliau AI ymarferol ym maes marchnata digidol a chreu cynnwys ar gyfer hyd at 1,000 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sector twristiaeth yng Nghymru.
Bydd £1m arall yn gweld arlwy uwchsgilio AI yn cael ei ddatblygu drwy'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP). Bydd yn canolbwyntio ar bontio bylchau sgiliau digidol a chefnogi twf cynhwysol trwy sicrhau mynediad at hyfforddiant ar draws rhanbarthau a diwydiannau - gyda chyflogwyr yn talu dim ond 25% o gostau hyfforddi AI a 50% ar gyfer cyrsiau FSP eraill.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cymorth gwerth £2.1 miliwn i helpu busnesau Cymru i fabwysiadu AI | LLYW.CYMRU.