
Wrth i fenywod Cymru baratoi i chwarae yn y Swistir y penwythnos hwn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ym mhencampwriaeth Ewro 2025, mae llawer o brosiectau yn digwydd ledled y wlad a thu hwnt i ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn.
Mae Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn yn cefnogi 16 sefydliad i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, prosiectau creadigol ac adnoddau dysgu i dynnu sylw at dalent Cymru, gan adeiladu gwaddol a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a diwylliant.
Mae tri phrosiect blaenllaw yn dod â'r dathliad hwn yn fyw:
- Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu'r bardd Sarah McCreadie i gofnodi taith Cymru yn yr Ewro gyda phedair ar ddeg o gerddi gwreiddiol. Mae Sarah, a fydd yn teithio gyda'r tîm i'r Swistir, yn dod â'i hangerdd am bêl-droed a barddoniaeth i'r rôl.
- Mae ffilm newydd bwerus gan y cyfarwyddwr Aaliyah MacKay yn dathlu Eleeza a Rosheen Khan, dyfarnwyr a hyfforddwyr Mwslimaidd benywaidd cyntaf Cymru. Mae'r chwiorydd, sy'n disgrifio eu hunain fel 'actifyddion pêl-droed', yn chwalu ffiniau yn y gêm ac yn ysbrydoli menywod o bob cymuned.
- Mae murlun nodedig mawr o Jess Fishlock wedi trawsnewid Parc Pêl-droed y Sblot yng Nghaerdydd, gan greu hanes fel y murlun maint cae llawn cyntaf i bêl-droediwr benywaidd yn Ewrop. Wedi'i greu gan yr artist o Gymru Regan Gilflin a stiwdio UNIFY Caerdydd, mae'r gwaith celf yn dathlu gwaddol Fishlock fel y pêl-droediwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau i Gymru.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Cymorth creadigol ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cymru yn Ewros y Menywod | LLYW.CYMRU
O gyllid ac adnoddau i gefnogaeth ac canllawiau, mae Cymru Greadigol yn ymrwymo i helpu ein diwydiannau creadigol i ffynnu. Archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael i chi: Ariannu a chefnogaeth | Cymru Greadigol