Mae'r Adran Fusnes wedi lansio ymgynghoriad ar sut y gall Llywodraeth y DU barhau i gefnogi busnesau cydweithredol a chydfuddiannol anariannol i gychwyn a thyfu.
Mae'n cynnwys:
- data a phrofiadau cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol anariannol ar draws sectorau
- profiadau cychwyn cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol anariannol
- sut mae cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol anariannol yn tyfu ac yn parhau
- profiadau busnesau sydd wedi cydfuddiannu, fel wedi newid i fodel cydweithredol neu gydfuddiannol
- profiadau cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol anariannol o ran cael mynediad at gymorth busnes
Mae'r alwad hon am dystiolaeth yn cau am 11:59pm ar 18 Chwefror 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Business support for co-operatives and non-financial mutuals - GOV.UK.