Newyddion

Cymorth biliau ynni ychwanegol

Smart meter - measuring energy use

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno mwy o gymorth i filiynau o aelwydydd i helpu i dalu eu biliau ynni y gaeaf nesaf.

Oherwydd cynnydd byd-eang ym mhrisiau nwy y gaeaf hwn ac effeithiau parhaus ymosodiad Rwsia ar Wcráin, mae’r rheolydd ynni Ofgem wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 25 Chwefror 2025) gynnydd yn y cap ar brisiau ynni ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025. Mae'r pris hwn wedi'i osod yn annibynnol ar y llywodraeth, gan adlewyrchu newidiadau mewn prisiau cyfanwerthu a marchnadoedd byd-eang. 

Mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu i ddiogelu’r sawl sy’n talu biliau drwy ymgynghori ar ehangu'r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gan roi gostyngiad o £150 ar eu biliau ynni i aelwydydd cymwys. 

Os ydych chi'n byw yng Nghymru a Lloegr, rydych chi'n gymwys ar hyn o bryd i gael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes os ydych chi naill ai'n cael elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn, yn cael budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd a bod gennych chi gostau ynni uchel.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle. Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.