
Yn 2025, lansiodd Uchelgais Gogledd Cymru Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru. Cynigwyd cyllid i brosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â datrysiadau ynni lleol blaengar a phrosiectau datgarboneiddio ehangach yn y sector gwirfoddol a'r sector preifat (SME) ar draws Gogledd Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd â chyllid cyfalaf sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Gronfa Fuddsoddi i Gymru, Banc Busnes Prydain a Chynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, Banc Datblygu Cymru, ymhlith eraill.
I gyd-fynd â hyn, bydd cymorth astudiaeth dichonoldeb yn helpu sefydliadau gogledd Cymru sydd yn datblygu prosiectau ynni glân neu ddatgarboneiddio drwy ddarparu cymorth i baratoi cynigion cryf, sydd yn barod am fuddsoddiad.
Bydd y cymorth yma yn cael ei gynnig gan gyflenwr a dewiswyd o flaen llaw gan Uchelgais Gogledd Cymru, hyd at werth £15,000 (eithrio TAW) i bob cais llwyddiannus.
Mae sefydliadau cymunedol a busnesau bach a chanolig (SMEs) yn gymwys i wneud cais, cyhyd â bod gan sefydliadau ei brif leoliad yn un neu fwy o'r 6 awdurdod lleol hon yng ngogledd Cymru: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, ac yn gallu dangos tystiolaeth eu bod yn masnachu o eiddo yng ngogledd Cymru.
Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy’r ffurflen ar-lein. Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r adnoddau canlynol, sydd ar gael ar yr un dudalen:
Nodwch, dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cais yw 5 Awst 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Uchelgais Gogledd Cymru | Cymorth Astudiaeth Dichonoldeb Ynni Glân