Heddiw (25 Mawrth 2026), mae'r Senedd wedi pleidleisio o blaid rheoliadau newydd a fydd yn sefydlu Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru o fis Hydref 2027 ymlaen.
Mae'r penderfyniad yn nodi cam pwysig arall yn nhaith Cymru tuag at economi gylchol a mynd i'r afael â sbwriel.
Mae Cynllun Dychwelyd Ernes yn gweithio trwy ychwanegu blaendal bach at bris diodydd mewn cynwysyddion cymwys pan fyddant yn cael eu prynu. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael yr arian hwnnw yn ôl pan fyddant yn dychwelyd y cynhwysydd gwag i bwynt dychwelyd dynodedig, fel peiriant mewn archfarchnad neu siop. Mae'r cynwysyddion wedyn yn cael eu casglu a'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio, gan gadw deunyddiau gwerthfawr allan o safleoedd tirlenwi ac oddi ar y strydoedd.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymeradwyo Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru i fynd i'r afael â sbwriel a hybu ailddefnyddio | LLYW.CYMRU.