
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £4.4 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.
Mae'r cyllid newydd, sydd wedi'i gynnwys yng Nghyllideb Derfynol 2025 i 2026 - ar ben y cynnydd a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft - yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector ar gyllideb refeniw y llynedd.
Mae hefyd yn ychwanegol at £73.8 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod asedau diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan wella profiadau a mynediad ymwelwyr. Mae hyn yn gynnydd o £18.4 miliwn ar lefelau 2024 i 2025.
Mae'r ymrwymiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar y £1 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn a ddarparwyd i'r sector ar ddiwedd 2024 i 2025, a gefnogodd 60 o sefydliadau diwylliannol ledled Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â'r £5 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Medi.
Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi | LLYW.CYMRU