Bydd busnesau bach ledled y DU yn elwa o gyllid a chefnogaeth newydd gan Lywodraeth y DU i'w helpu i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd, i leihau eu costau gweithredu ac i roi hwb i'w busnes.
Mae hyn yn cynnwys £2 miliwn ychwanegol o gyllid trwy'r rhaglen 'Made Smarter Adoption' yn benodol i helpu busnesau bach a chanolig i ostwng eu biliau a dod yn fwy effeithlon o ran ynni drwy fuddsoddi mewn technoleg mewn meysydd fel gwresogi, inswleiddio a phŵer solar.
Mae hyn yn rhan o ymateb y Llywodraeth i Adroddiad Adolygu Willow, a ganfu fod 67% o fusnesau bach a chanolig a fabwysiadodd arferion cynaliadwy, fel gosod paneli solar neu werthu ynni yn ôl i'r grid, wedi adrodd costau gweithredu llai - enillion clir ar fuddsoddiad.
Mae adroddiad y Willow Review, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn adroddiad annibynnol a gefnogir gan lywodraeth y DU, dan arweiniad Small Business Britain ac a gefnogir gan Barclays.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: New funding to help small businesses cut their costs - GOV.UK.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Pan ymunwch â’r Addewid Twf Gwyrdd, bydd gofyn i'ch busnes ymrwymo i un neu fwy o gamau cadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd yn ogystal â sicrhau eich bod yn perfformio’n gynaliadwy.