
Mae Fit For Offshore Renewables (F4OR) yn rhaglen unigryw sy'n anelu at ysgogi cwmnïau o fewn cadwyn gyflenwi'r DU gyda'r offer sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr.
Nod y rhaglen yw cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy ar y môr yn y DU sy'n gynyddol gymwys, galluog a chystadleuol, gan wneud y mwyaf o gyfleoedd i gadwyn gyflenwi'r DU, yn ddomestig ac yn fyd-eang.
Nid yw'r rhaglen yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n cymryd rhan fod â phrofiad yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy'n cymryd rhan fod wedi nodi ynni adnewyddadwy ar y môr fel cyfle strategol ar gyfer twf.
Mae datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rhaglen F4OR De Cymru 2025 bellach ar agor.
Gall busnesau yn rhanbarth Abertawe sy'n chwilio am lwyddiant yn y farchnad ynni gwynt ar y môr arnofiol nawr wneud cais am y rhaglen gymorth cadwyn gyflenwi 12–18 mis hon.
Mae'r rhaglen hon wedi'i hariannu'n gyfartal gan Ystad y Goron a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, partneriaeth rhwng Cyngor Sir Gâr a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Fit for Offshore Renewables Programme | F4OR | ORE Catapult
Os ydych chi eisiau mentro i'r sector ynni gwynt ar y môr, mae cyfleoedd cyllid a chymorth ar gael trwy'r Bartneriaeth Twf Gwynt ar y Môr. Dewiswch y ddolen ganlynol: Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk).