Newyddion

Cyllid ar gael ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru

commercial fishing

Mae cyllid Llywodraeth Cymru o hyd at £1.85 milwn bellach ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

Nod y cynllun yw sicrhau twf cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu. 

Bydd y cyfnod ymgeisio yn parhau ar agor am 12 wythnos, gan gau ar 31ain Mawrth. Gellir cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau drwy'r cynllun o dan 11 categori ar wahân. 

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol: 

  • Cyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaeth ac offer ar gychod gyda'r nod o leihau allyriadau a gwell effeithlonrwydd ynni
  • Cyngor proffesiynol i fusnesau sy'n amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i gynlluniau busnes a marchnata
  • Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer eitemau iechyd a diogelwch dewisol ar fwrdd cychod neu ar y ti

Darparodd y rownd ariannu ddiwethaf grantiau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys gwelliannau seilwaith i harbyrau, prosiectau ymchwil morol, prosiectau iechyd a lles pysgotwyr, offer prosesu yn ogystal ag eitemau llai fel peiriannau iâ, plu iâ, cloriannau pwyso a blychau oer. 

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle gellir dod o hyd i'r prosesau ymgeisio a hawlio: Cylch Ariannu Cyffredinol (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru): 7 Ionawr i 31 Mawrth 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cyllid ar gael ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.