Newyddion

Cyhoeddi pecyn cymorth costau byw gwerth £130 miliwn

Calculator and money

Mae teuluoedd a chymunedau ledled Cymru yn cael cymorth ychwanegol ar unwaith i ddelio â'r costau byw cynyddol.

Yn ogystal â nifer o fesurau sydd eisoes ar waith, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn gwerth £130 miliwn i ddarparu cymorth pellach i'r rhai y mae costau byw yn effeithio'n sylweddol arnynt.

Mae'r pecyn yn cynnwys y taliad ynni o £100 i aelwydydd ym mandiau treth gyngor A - D, gyda'r taliad yn cael ei estyn i bawb sy'n derbyn o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, waeth beth fo'u band.

Bydd £8 miliwn ychwanegol ar gael i gynghorau lleol i estyn y taliad o £100 i aelwydydd nad yw cynlluniau eraill wedi'u targedu ar eu cyfer ond sy'n wynebu caledi ariannol. Bydd canllawiau llawn ar y cynllun hwn ar gael i gynghorau cyn bo hir.

Mae £5 miliwn yn cael ei ddarparu i helpu gyda chostau tanwydd oddi ar y grid. Bydd taliad o £250 ar gael i aelwydydd sy'n gymwys i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar sail eu hincwm ac sy'n ddibynnol ar olew gwresogi neu LPG.

Mae £7 miliwn ar gael i gefnogi gweithredwyr bysiau gyda'u costau tanwydd uchel, gan ddefnyddio strwythur cynllun grant bysiau presennol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau na fydd gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol na darpariaeth cludiant i ddysgwyr yn cael eu colli, ynghyd â diogelu teithwyr rhag cynnydd mewn prisiau.

Bydd yr ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi yn cael hwb i sicrhau bod rhagor o bobl yn gwybod beth y mae ganddyn nhw hawl iddo a lle i gael cymorth.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cyhoeddi pecyn cymorth costau byw gwerth £130m | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.