Newyddion

Cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer busnesau cymdeithasol

Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd.

Mae Cylch 3 y cynllun ar agor nawr am gyfnod byr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Mawrth 2023, 11.59pm.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Grant dechrau busnes cymdeithasol - CGGC (wcva.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.