
Bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru’n elwa o gronfa newydd, gwerth mwy na hanner biliwn o bunnoedd, i greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant ledled Cymru gyfan.
Mae'r Gronfa Twf Lleol yn cymryd lle arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd y penderfyniadau ynghylch sut bydd yr arian yn cael ei wario yn dychwelyd i Gymru, gan anrhydeddu ymrwymiad Llywodraeth y DU i adfer gwneud penderfyniadau am arian oedd yn dod o’r UE yn flaenorol.
Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cytuno ar fframwaith a fydd yn pennu blaenoriaethau a phrosesau ar gyfer dyrannu'r arian, gyda chynllun cyflawni wedi'i ddatblygu a'i arwain gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill rôl allweddol wrth benderfynu sut mae'r cyllid yn cael ei wario a chyflwyno'r gronfa mewn cymunedau.
Yn ddiweddarach y mis yma, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwn drwy ymgynghoriad.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddeall sut gall gyflawni’r canlynol yn y ffordd orau:
- cefnogi pobl i gael gwaith a helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau newydd i symud ymlaen i swyddi gyda chyflog uwch fel bod cyfran fwy o'n poblogaeth yn cael ei chyflogi
- helpu i greu a thyfu busnesau Cymru mewn sectorau allweddol a hybu buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesi, mewn meysydd fel iechyd a biodechnoleg, technoleg ariannol, ynni carbon isel a deallusrwydd artiffisial.
- mynd i'r afael â'r materion sy'n atal twf, fel yr angen am safleoedd ac adeiladau allweddol, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel, effeithlonrwydd ynni, a thrafnidiaeth carbon isel.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y cyllid yn ystod y misoedd nesaf.
I ddarllen y cyhoeddiad ewch i Llyw.Cymru Cyhoeddi cronfa twf gwerth hanner biliwn o bunnoedd ar gyfer Cymru | LLYW.CYMRU