
Heddiw (11 Chwefror 2025), bydd rheoliadau i gyfyngu ar hyrwyddo a lleoli bwyd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr yn cael eu gosod yn y Senedd. Mae hyn yn nodi cam hollbwysig ym mrwydr Cymru yn erbyn lefelau gordewdra sy’n codi.
Nod Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025 yw newid y ffordd y mae siopau yn hyrwyddo bwyd sy’n llai iach, drwy dargedu’r hyn y mae arbenigwyr yn ei gydnabod yn un o’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am yr her gordewdra.
Bydd y rheoliadau:
- yn cyfyngu ar hyrwyddo bwyd a diod mewn ffordd sy’n gallu annog pobl i orfwyta, fel cynigion i brynu sawl eitem am bris llai ac i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim
- yn cyfyngu ar gyflwyno bwyd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen yn y lleoliadau gwerthu gorau mewn siopau, fel wrth y fynedfa a’r mannau talu ac ar dudalen hafan gwefannau
- yn berthnasol i fusnesau canolig a mawr sydd â 50 o weithwyr neu ragor
Mae’r cyfyngiadau’n adlewyrchu i raddau helaeth reolau sydd wedi’u cyflwyno’n barod yn Lloegr. Bydd cyfnod gweithredu o 12 mis cyn i’r rheoliadau gael eu cyflwyno ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ar yr amod y byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd drwy bleidlais fis nesaf.
Mae’r cyfyngiadau ar le y bydd bwyd afiach yn gallu cael ei arddangos a’i hyrwyddo wedi’u cynllunio fel na fydd pobl yn cael eu cymell yn sydyn i brynu nac yn gorfwyta.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i gefnogi busnesau ac awdurdodau lleol i weithredu’r newidiadau hyn – newidiadau sy’n adlewyrchu i raddau helaeth fesurau tebyg sydd wedi’u cyflwyno’n barod yn Lloegr.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Cyfyngiadau newydd ar hyrwyddo bwyd afiach i fynd i’r afael â’r lefelau gordewdra sy’n codi yng Nghymru | LLYW.CYMRU