
Fel rhan o raglen BridgeAI, mae Innovate UK yn falch o gyflwyno cyfres newydd o bum digwyddiad rhanbarthol sy'n cael eu cynnal ledled y DU gyda'r nod o archwilio byd diddorol deallusrwydd artiffisial a'i rôl mewn arloesi effeithiol.
Bydd cyfres Sioeau Teithiol BridgeAI yn:
- arddangos y prosiectau BridgeAI sydd wedi’u hariannu a rhannu’r cyfleoedd agored sydd ar gael i helpu i ledaenu a chydweithredu ymhellach
- darparu sesiynau gwybodaeth craff i’r rhai sy’n cymryd rhan a chynnal gweithdai rhagarweiniol i wahanol randdeiliaid.
- dangos i'r gymuned fusnes leol sut mae cyrff arloesi cenedlaethol a lleol yn rhyng-gysylltiedig a lle gellir dod o hyd i gymorth
Cynhelir digwyddiad Cymru ar 6 Mai 2025 ym Mhrifysgol Abertawe.
Cynhelir y digwyddiadau ym Mryste, Newcastle, Caeredin a Belfast.
Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer arweinwyr busnes, arloeswyr, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o’r sectorau blaenoriaeth a ddiffinnir fel amaethyddiaeth a phrosesu bwyd, diwydiannau creadigol, adeiladu a thrafnidiaeth, gan gynnwys logisteg a warysau.
P'un ai ydych am roi datrysiadau AI ar waith yn eich busnes neu gyflenwi atebion arloesol i fynd i'r afael â heriau’r diwydiant, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Innovate UK BridgeAI Regional Roadshow Series - Innovate UK Business Connect
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.