Gall aflonyddu rhywiol yn y gwaith ddigwydd ar unrhyw adeg. Gall y risg fod yn uwch yn ystod tymor yr ŵyl, gyda phartïon Nadolig y gweithle yn golygu bod staff yn cymdeithasu y tu allan i'r gwaith yn y nos, gan yfed alcohol ar yr un pryd yn aml.
Mae dyletswydd ataliol Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 yn golygu bod yn rhaid i gyflogwyr gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu staff rhag cael eu haflonyddu'n rhywiol yn y gwaith – p'un ai ydynt mewn parti Nadolig gwaith neu'n gweithio mewn un.
Mae partïon y gweithle yn gyfle i gydweithwyr ddod at ei gilydd i ddathlu’r ŵyl a'u gwaith caled yn ystod y flwyddyn. Os ydych chi'n gyflogwr, nid oes angen i chi ganslo eich gweithgareddau Nadolig i gydymffurfio â'r gyfraith, ond mae angen i chi gymryd camau i fynd i'r afael â'r posibilrwydd y gallai aflonyddu rhywiol ddigwydd.
Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i amddiffyn eu gweithwyr. Nid yw polisïau a gweithdrefnau, ar eu pen eu hunain, yn ddigon i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd yn eich gweithle. Gall peidio â chymryd camau rhesymol i atal aflonyddu rhywiol gael effaith sylweddol ar enw da eich busnes a lles a diogelwch eich gweithwyr.
Gall eich sefydliad fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am aflonyddu rhywiol os na fyddwch yn cymryd camau ataliol.
Darllenwch ganllawiau aflonyddu rhywiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer partïon Nadolig y gweithle a’r canllawiau technegol aflonyddu ac aflonyddu rhywiol i gael rhagor o wybodaeth am y camau ymarferol y gall eich sefydliad eu cymryd i amddiffyn staff.