
Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi’n brentis.
Rhaid i chi fod o leiaf yn:
- oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- 21 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 20 oed ac iau
Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 21 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai o oed gadael ysgol o leiaf). Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.
21 a throsodd | 18 i 20 | O dan 18 | Prentis | |
Ebrill 2024 (cyfradd presennol) | £11.44 | £8.60 | £6.40 | £6.40 |
Ebrill 2025 | £12.21 | £10.00 | £7.55 | £7.55 |
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol - GOV.UK
Cysylltwch â llinell gymorth ACAS i gael cyngor diduedd a chyfrinachol ar dalu gweithwyr yn gywir.
Ewch i’r dudalen ganllaw 'Calculating the minimum wage' ar GOV.UK i gael cyngor ar sut i wneud y cyfrifiadau cywir, oherwydd mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn fwy na chyfradd cyflog yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol: Cyflog Byw Cymru – Ar gyfer gwir gostau byw Living Wage Wales – For the real cost of living (cyflogbyw.cymru)