Mae’r cyflog byw yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr ac yn dda i’r economi leol.
Drwy dalu’r Cyflog Byw mae cyflogwyr yn cymryd cam gwirfoddol i sicrhau bod eu cyflogai yn gallu ennill cyflog y mae modd iddynt fyw arno. Golyga hyn eu bod yn gallu cyfranogi at gymdeithas, gan ennill digon o arian i fyw, yn hytrach na dim ond crafu byw.
Yn ogystal â bod y peth iawn i’w wneud, mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y buddion busnes o fod yn gyflogwr Cyflog Byw, yn ychwanegol at y buddion sy’n dod i’r economïau lleol.
Mae cyfraddau Cyflog Byw yn cael eu cyfrifo'n annibynnol ar sail gwir gostau byw yn y DU a Llundain.
Y cyfraddau newydd ar gyfer 2025/26 yw:
- £13.45 cyfradd y DU
- £14.80 cyfradd Llundain
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y doleni ganlynol:
- Real Living Wage Rates Increase to £13.45 in UK and £14.80 in London | Living Wage Foundation in London | Living Wage Foundation
- What is the real Living Wage? | Living Wage Foundation
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy'n gallu fforddio gwneud hynny i sicrhau bod eu gweithwyr yn derbyn cyfradd cyflog yr awr sy'n adlewyrchu costau byw, nid dim ond y lleiafswm statudol. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol gwirfoddol yn cael ei gyfrifo'n annibynnol ar sail yr hyn y mae bobl ei angen i ddygymod, ac mae'n uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Ceir rhagor o wybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Amdano – cyflogbyw.cymru.