Newyddion

Cyfraddau llog taliadau hwyr CThEF yn cael eu diwygio Awst 2024

arrows pointing down and per cent symbol on wooden blocks

Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 1 Awst 2024 i leihau cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 5% o 5.25%.

Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr.

O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn lleihau.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar:

  • 12 Awst 2024 am randaliadau chwarterol
  • 20 Awst 2024 am randaliadau heb fod yn rhai chwarterol

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: HMRC late payment interest rates to be revised after Bank of England cuts base rate - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.