Mae angen 9,000 o wirfoddolwyr i fod wrth galon y Tour de France a'r Tour de France Femmes avec Zwift Grand Départs yn y DU ym mis Gorffennaf 2027.
Bydd angen tua 1,000 o wirfoddolwyr yng Nghymru ar gyfer trydydd cymal ras y dynion ar 4 Gorffennaf. Mae'r cymal yn dechrau yn y Trallwng, yn mynd trwy dirweddau eiconig, dyffrynnoedd godidog a chanol trefi prysur, cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Mae'r cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 1 Medi 2026: Mae'r Tour de France yn dod i Gymru - Gwirfoddoli Cymru.
Caiff unrhyw un sy'n 16 oed a hŷn ei annog i wneud cais - nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol a chaiff hyfforddiant llawn ei roi. Bydd y rhai rhwng 18 a 25 oed hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun Readiness to Work, sy'n cynnig hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd.
Bydd y gwirfoddolwyr, a gaiff eu hadnabod yn swyddogol fel 'JOY Makers', yn helpu i sicrhau bod y digwyddiadau eiconig hyn yn rhedeg yn ddidrafferth, gan ddod â llawenydd i gefnogwyr a chymunedau ar draws y chwe chymal. Mae amrywiaeth o rolau ar gael ar draws y ddwy daith i helpu â'r gwaith gweithredu a gwella profiad y gwylwyr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sicrhau y gall gwirfoddoli ar gyfer y digwyddiadau hyn agor drysau i gyfleoedd pellach ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Cyfnod ymgeisio yn agor ar gyfer rolau gwirfoddoli Tour de France yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.
Mae gweithwyr sy’n gwirfoddoli yn aml yn dysgu sgiliau newydd hefyd, yn enwedig mewn meysydd fel rheoli amser, cyfathrebu, dylanwadu ac arwain, gan ddod â’r rhain yn ôl i’r gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales).