Newyddion

Cyfnod cofrestru wedi agor i fynychu cynhadledd ar y cyd gyntaf Rolls-Royce SMR a Great British Energy – Nuclear ar gyfer y gadwyn gyflenwi

People at a conference

‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ yw thema’r digwyddiad ar y cyd cyntaf lle bydd cyflenwyr yn dysgu sut allant ddod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi i ddarparu Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs) ar Ynys Môn a gweddill y byd. 

Bydd y digwyddiad arwyddocaol hwn, sy'n cael ei gynnal ar 22-23 Hydref ar Gampws Coleg Menai yn Llangefni, yn dwyn ynghyd y gadwyn gyflenwi leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i glywed gan aelodau uwch o dimau Rolls-Royce SMR a Great British Energy - Nuclear (GBE-N) sy’n cyflawni prosiect Gwyndod i adeiladu'r SMRs cyntaf yn y DU ar Ynys Môn. 

Yn gwmni i Rolls-Royce SMR a GBE-N fydd eu partneriaid cyflawni a nifer o brif gyflenwyr haen 1, gan roi cyfle i gynrychiolwyr gwrdd â’r bobl sy’n arwain y rhaglen, deall yr hyn a ddisgwylir gan y gadwyn gyflenwi, a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael wrth i’r prosiect symud yn ei flaen. 

Bydd Rolls-Royce SMR yn arwain diwrnod cyntaf y gynhadledd, a fydd yn canolbwyntio ar gyflenwyr cenedlaethol a rhyngwladol, a GBE-N fydd yn arwain yr ail ddiwrnod gan ganolbwyntio ar gyfleoedd i gyflenwyr lleol a mentrau bach a chanolig – a’u helpu i ddeall sut i fod yn rhan o brosiect Gwyndod a chefnogi ei uchelgais i sicrhau buddion cymdeithasol-economaidd lleol hirdymor. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Nuclear ar gyfer y gadwyn gyflenwi 

Bydd y ffenestr gofrestru ar agor tan 25 Medi 2026.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.