Newyddion

Cyflwynwch eich ffurflen dreth yn gynnar

female business owner looking at a digital device

Os nad ydych wedi ffeilio eich ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer 2025 i 2026, does dim rhaid i chi aros tan 31 Ionawr 2027, gallwch wneud hyn unrhyw bryd.

Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n osgoi'r rhuthr munud olaf wrth i'r dyddiad cau agosáu.

Mae'n gyflym, yn hawdd ac yn ddiogel i gwblhau eich ffurflen dreth ar-lein, mae defnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF yn golygu:

  • y bydd eich ffurflen dreth yn cael ei phrosesu'n gyflymach
  • y byddwch chi'n gwneud llai o gamgymeriadau gan ei fod yn eich rhybuddio am wallau amlwg
  • bod help ar gael bob cam o'r ffordd – sy’n eich cysylltu â chanllawiau a fideos
  • ei bod yn hawdd cywiro unrhyw wallau neu ychwanegu gwybodaeth rydych chi wedi'i methu
  • y gallwch gael gafael hawdd ar ffurflenni treth ar-lein blaenorol er gwybodaeth ac i’ch helpu gyda'ch ffurflen dreth ddiweddaraf

Ac, y bydd gennych hyd at 31 Ionawr 2027 i dalu'r hyn sy'n ddyledus.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Submit your tax return early - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.