Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Llun 23 Tachwedd 2026 – wrth i ragor o fesurau gael eu cyflwyno i leihau'r risg uwch o ffliw adar.
Mae Cymru'n wynebu bygythiad sylweddol oherwydd nifer cynyddol o achosion o'r ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr.
Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd a iechyd pobl.
O hanner dydd ar ddydd Llun 23 Tachwedd 2026, bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.
Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd.
Bydd y mesurau gorfodi newydd i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori ym Mharth Atal Ffliw Adar presennol Cymru (AIPZ) a gyflwynwyd ar 16 Tachwedd 2026
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyflwyno mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i'w hamddiffyn rhag y ffliw adar | LLYW.CYMRU.