Newyddion

Cyflwyno mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i'w hamddiffyn rhag ffliw'r adar

Fliw Adar

Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth yng Nghymru gadw eu hadar o dan do o ddydd Iau 13 Tachwedd 2025 yn sgil cyflwyno mesurau i leihau'r risg o ledaenu ffliw adar.

Mae Cymru'n wynebu bygythiad sylweddol uchel oherwydd nifer cynyddol o achosion o ffliw'r adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain Fawr. 

Mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd pobl. 

O ddydd Iau 13 Tachwedd 2025, bydd yn ofyn cyfreithiol i bob ceidwad sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw ei adar dan do.  

Bydd heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd sy'n gysylltiedig â masnachu neu roi cynhyrchion dofednod i ffwrdd. 

Bydd gofynion bioddiogelwch ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela, a welodd achosion o ffliw adar y tymor diwethaf. 

Bydd y mesurau gorfodol newydd i gadw adar dan do yn cael eu hymgorffori ym Mharth Atal Ffliw Adar presennol Cymru (AIPZ) a gyflwynwyd ym mis Ionawr.

Bydd y gorchymyn cadw adar dan do a'r AIPZ mewn grym nes y cyhoeddir yn wahanol a bydd Llywodraeth Cymru'n cadw golwg ar y mesurau hwn wrth fonitro a rheoli'r risg ffliw adar, hynny law yn llaw â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gweinyddiaethau eraill y DU. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyflwyno mesurau gorfodol i gadw dofednod dan do i'w hamddiffyn rhag ffliw'r adar | LLYW.CYMRU.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.