
Mae ELITE yn elusen gofrestredig sy'n gweithio gyda phobl anabl neu sydd dan anfantais, rhwng 14 a 65+ oed ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn cefnogi cannoedd o bobl bob blwyddyn gyda chyfleoedd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth ac yn cynnig gwasanaeth recriwtio rhad ac am ddim i ddod â chyflogwyr a phobl anabl at ei gilydd er mwyn galluogi arferion recriwtio llwyddiannus. Mae cyllid hefyd ar gael i gyflogwyr sy'n gobeithio cyflogi trwy ELITE. Yn dibynnu ar y prosiectau sydd ar gael.
Mae eu prosiect newydd sbon, Cynnal Gallu (SustainAbility), yn helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer swyddi sy'n amddiffyn yr amgylchedd.
Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed ac eisiau meithrin hyder, dysgu sgiliau newydd, a chael profiad ymarferol ym myd Gyrfaoedd Gwyrdd, mae’r prosiect hwn i chi.
Gallwch ymuno os:
- Ydych chi rhwng 16 a 30 oed
- Rydych yn byw yn un o'r ardaloedd canlynol: Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg
- Nad ydych ar hyn o bryd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant lawn amser
- Rydych eisiau magu hyder, dysgu sgiliau newydd, ac archwilio gwaith mewn diwydiannau gwyrdd
- Mae gennych anabledd – mae Cynnal Gallu yn gynhwysol ac yn cynnig cymorth wedi'i deilwra
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol: Cynnal Gallu - Cyflogaeth â Chymorth ELITE a Cyflogaeth â Chymorth ELITE yn ennill gwobr i bartneru ag Innovate Trust i helpu 400 o bobl anabl lansio gyrfaoedd gwyrdd - Cyflogaeth â Chymorth ELITE.
Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at greu gweithle cynhwysol, teg ac amrywiol, arddangos eu hymrwymiad i’w gweithwyr a’r gymuned ehangach a chynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb. Drwy lofnodi’r Addewid Cydraddoldeb, gofynnir i’ch busnes wneud ymrwymiad cadarnhaol i un, neu fwy o’r gweithredoedd fydd yn helpu i wella eich arferion cydraddoldeb a rhannu’r ymrwymiad hwnnw gyda’ch cymuned: Addewid Cydraddoldeb | Busnes Cymru