Newyddion

Cyfleuster i roi bywyd newydd i hen deiars gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Turf Treads vans

Mae un o brif ddarparwyr gwasanaethau teiars Cymru ar fin agor cyfleuster newydd a fydd yn rhoi bywyd newydd i hen deiars, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Bydd Tuf Treads, yn Sir Gaerfyrddin, yn achub hen deiars rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi drwy eu defnyddio i gynhyrchu teiars premiwm wedi eu hail-wadnu gan ddefnyddio'r dechnoleg weithgynhyrchu ddiweddaraf. Mae ail-wadnu yn rhoi dechrau newydd i deiars addas unwaith y bydd y gwadn gwreiddiol wedi gwisgo.

Wedi'i leoli ar Safle Cyflogaeth Strategol Cross Hands, bydd y ffatri newydd yn creu 30 o swyddi newydd.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan £400,000 gan Gronfa Dyfodol yr Economi a £220,000 o Gyllid Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Cyfleuster i roi bywyd newydd i hen deiars gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

Gall fod yn anodd gwybod lle i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir o gyllid.

Mae ein parth cyllid yma i’ch helpu. Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes, darllenwch ganllawiau sy'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid, chwiliwch am wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr a darllenwch am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru: Canfod Cyllid | Drupal


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.