Newyddion

Cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru yn y sector ffermydd gwynt arnofiol ar y môr

floating wind turbine

Mae busnesau yng Nghymru yn cael eu gwahodd i chwarae rhan flaenllaw yn y diwydiant ffermydd gwynt arnofiol ar y môr sy'n datblygu, yn dilyn lansio'r strategaeth gaffael ar gyfer Erebus gan Blue Gem Wind.

Mae'r lansiad yn cynnig cyfle i fusnesau ledled Cymru osod eu hunain o fewn y gadwyn gyflenwi ynni gwynt alltraeth yn y Môr Celtaidd, sector sy'n tyfu, gan gefnogi gweithredu prosiect profi ac arddangos 100 megawat sydd wedi cael yr holl ganiatâd angenrheidiol, ac sydd wedi'i leoli tua 35km oddi ar arfordir Sir Benfro.

Gyda’r gwaith adeiladu wedi'i gynllunio erbyn diwedd y degawd, mae Erebus yn gam allweddol yn natblygiad cyfres ehangach o brosiectau ynni gwynt alltraeth ar strwythurau sy’n arnofio yn y Môr Celtaidd. Mae ei gyflwyniad yn cynnig y potensial i greu cyfleoedd sylweddol i ddiwydiant yng Nghymru, gan helpu busnesau i ddatblygu galluoedd newydd, buddsoddi mewn sgiliau ac offer, a sefydlu eu hunain mewn sector sydd â photensial ar gyfer twf hirdymor.

Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd posibl gydag Erebus gan Blue Gem Wind i gofrestru eu diddordeb ac ymuno â chronfa ddata cadwyn gyflenwi'r prosiect drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Join Our Supply Chain | Blue Gem Wind.

Cyfleoedd contractau sector cyhoeddus yng Nghymru: Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru).

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.