Mae ceisiadau’n cau ar 9 Medi ar gyfer rhaglen deg wythnos sy’n cefnogi entrepreneuriaid twf uchel Cymru
Anogir darpar entrepreneuriaid ledled Cymru i wneud cais am Raglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, erbyn dydd Mercher 9 Medi 2026, ar gyfer y garfan fydd yn rhedeg rhwng 29 Medi a 10 Rhagfyr 2026.
Mae'r rhaglen yn agored yn unig i sylfaenwyr o Gymru sydd â syniadau busnes twf uchel ac a all ddangos potensial i gyrraedd trosiant blynyddol o £1 miliwn, creu deg neu ragor o swyddi amser llawn, ac allforio'n rhyngwladol erbyn 2029.
Darpara’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes gymorth dwys i helpu sylfaenwyr i symud yn gyflym o'r cysyniad i'r cwsmeriaid cyntaf. Mae cyfranogwyr yn elwa o fentora arbenigol un-i-un, gweminarau wythnosol a dosbarthiadau meistr a rhwydweithio cymheiriaid gydag entrepreneuriaid o'r un anian. Mae'r rhaglen hefyd yn ymgorffori offer AI i gyflymu ymchwil i'r farchnad a lleihau’r amser i gyrraedd y farchnad, ochr yn ochr â chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata i godi proffil busnesau’r cyfranogwyr.
Un enghraifft o effaith y rhaglen yw Graze Guard, sy'n cynhyrchu chwistrell sy'n amddiffyn athletwyr rhag llosgiadau tyweirch ar gaeau artiffisial. Enillodd y sylfaenydd Latham Tawhai, cyn-chwaraewr rygbi cynghrair proffesiynol, Wobr Pencampwr y Rhaglen Gyflymu yn rhan o garfan ddiweddaraf y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes. Mae Graze Guard wedi lansio ers hynny ac wrthi'n cael ei fabwysiadu gan glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled y DU.
Meddai Latham Tawhai, sylfaenydd Graze Guard:
“Pan ymunais i â’r rhaglen gyflymu, roedd gen i gynnyrch yr oeddwn i’n credu ynddo ond dim llwybr clir ymlaen. Fe wnaeth y rhaglen fy ngwthio i brofi fy rhagdybiaethau, ymgysylltu â phrynwyr go iawn ac adeiladu ar sylfeini masnachol cadarn. Dyna a roddodd y llwyfan inni symud ymlaen. Mae Graze Guard ar gael i'w brynu erbyn hyn, ac rydyn ni mewn trafodaethau gyda chlybiau a sefydliadau chwaraeon mawr. Dwi ddim yn meddwl y byddem ni wedi symud mor gyflym â hyn heb y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes.”
Mae cyfranogwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i greu busnesau cryf ar y llwyfan cenedlaethol. Mae LanoTech, sy'n arloesi'r defnydd o lanolin o wlân defaid yn ddewis arall cynaliadwy yn lle soi ac olew llysiau mewn porthiant anifeiliaid, wedi sicrhau piblinell buddsoddiad o £470,000 ers graddio ac fe'i henwyd y Busnes Newydd Gwledig Gorau yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cenedlaethol y DU 2025. Enillodd Emwillcare, sydd wedi datblygu platfform wedi ei bweru gan AI sy'n helpu gofalwyr i ddeall ac ymateb i ymddygiad gofidus mewn cleifion dementia, Wobr StartUp For Good yng Ngwobrau StartUp Cymru 2026 a bydd yn mynd ymlaen i Rownd Derfynol Genedlaethol y DU yn Ideas Fest ym mis Medi.
Meddai Lucy Jones, Rheolwr Gweithrediadau’r Rhaglen Cyflymu Twf:
“Mae hanes llwyddiant y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn siarad drosto’i hun ac rydyn ni am adeiladu ar hynny gyda’r garfan newydd hon. Mae'r rhaglen gyflymu yn rhoi llwybr wedi'i ariannu'n llawn i sylfaenwyr yng Nghymru o'r syniad i'r cwsmer cyntaf. Dros ddeg wythnos, rydyn ni’n helpu cyfranogwyr i fireinio eu cynnig, ei brofi gyda phrynwyr go iawn a gadael gyda chynllun busnes y gallan nhw weithredu arno ar unwaith.
“Gallwn ni hefyd gynnig cyllid ar gyfer rhwystrau ac addasiadau pan fo'n gymwys i gael gwared ar rwystrau sy'n gysylltiedig ag anghenion mynediad neu gyfrifoldebau gofalu.
“Mae ceisiadau’n cau ar 9 Medi, a byddwn i’n annog unrhyw un sydd â syniad busnes dilys i wneud cais cyn y dyddiad cau.”
Gall entrepreneuriaid sydd â diddordeb wneud cais yma.