Newyddion

Cyfle i ffermydd Cymru gael benthyciadau llog isel ar gyfer buddsoddiadau cynaliadwy

Farmer and tractor

Bydd busnesau ffermio yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyllid hirdymor fforddiadwy i fuddsoddi mewn cynaliadwyedd a chynhyrchiant drwy gynllun peilot newydd gwerth £5 miliwn sy'n cael ei lansio ar 1 Gorffennaf 2026.

Bydd y Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy (SALS) yn cynnig benthyciadau cyfradd sefydlog ar log o 3%, y gellir eu had-dalu dros gyfnod o hyd at 15 mlynedd. Gall busnesau fferm cymwys yng Nghymru gael benthyg rhwng £25,001 ac £1 miliwn i ariannu gwelliannau mewn effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff, tir ac adeiladau, ac offer newydd. 

Bydd y cynllun peilot blwyddyn o hyd a gyflwynir gan Fanc Datblygu Cymru yn profi galw'r farchnad ac mae wedi'i lunio ar sail y realiti ymarferol sy'n wynebu ffermydd Cymru, gan gynnwys costau mewnbynnau ac ynni cynyddol a'r angen i fuddsoddi mewn gwydnwch hirdymor. 

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i fusnesau gynnal gweithgareddau amaethyddol neu ategol ar dir amaethyddol yng Nghymru. Rhaid iddynt hefyd naill ai ffermio o leiaf dri hectar o dir cymwys neu ddangos mwy na 550 awr o lafur safonol yn flynyddol. Mae opsiynau ad-dalu tymhorol hefyd yn cael eu hystyried i adlewyrchu patrymau llif arian y byd amaeth. 

Mae SALS yn cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o ran rheoli tir yn gynaliadwy, datgarboneiddio a chymunedau gwledig cryfach.

Cliciwch ar y dolenni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: 

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cymryd rhan: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.