Newyddion

Cyfle i ennill grant o £5,000 i hybu eich cynaliadwyedd

Sustainability digital symbols

Ydych chi’n barod i fuddsoddi mewn dyfodol cynaliadwy?

P'un ai ydych chi'n uwchraddio offer, yn gwella effeithlonrwydd ynni neu’n buddsoddi mewn seilwaith adnewyddadwy, dyma'ch cyfle i gymryd cam hyderus tuag at fusnes mwy cynaliadwy.

Diolch i Powering Local Businesses, bydd pum busnes yn derbyn grant o £5,000 yr un i'w helpu nhw i wneud uwchraddiadau ystyrlon i'w cynaliadwyedd i arbed arian a charbon.

Gallent gynnwys:

  • gwelliannau effeithlonrwydd ynni, neu uwchraddio i gyfarpar mwy effeithlon
  • gosodiadau ynni adnewyddadwy (paneli solar, storio batris er enghraifft)
  • gwefrwr cerbydau trydan a meddalwedd rheoli

Mae'r grant ar agor i fusnesau bach cofrestredig yn y DU sydd â safle ffisegol, llai na 50 o weithwyr ac o leiaf 12 mis o hanes masnachu.

Hefyd, bydd pum perchennog busnes yn ennill gwefrwr cerbyd trydan yn y gweithle (gan gynnwys gosodiad safonol) gan Pod.

Gallwch wneud cais am y grant, y gwefrwr cerbyd trydan neu'r ddau.

Mae ceisiadau'n cau am hanner nos ar 31 Awst 2026.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: £5,000 sustainability grants for UK small businesses | Enterprise Nation.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad chynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.