Mae Enterprise Nation ac EDF Small Business, gyda chefnogaeth Square, yn rhoi £25,000 o gyllid i helpu 25 o fusnesau bach i fuddsoddi mewn gwelliannau ymarferol.
Gallai hyn gynnwys:
- prynu neu ddiweddaru meddalwedd
- mabwysiadu systemau talu newydd
- gwneud gwelliannau cynaliadwyedd (er enghraifft, gosod goleuadau newydd)
- uwchraddio'ch gwefan
- cyflogi ymgynghorydd busnes neu arbenigwr
- uwchraddio offer (fel gliniaduron), neu
- unrhyw fuddsoddiad ymarferol arall sy'n helpu i gryfhau eich busnes
Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn grant o £1,000 i gefnogi cam nesaf eu busnesau.
Bydd ceisiadau'n cau am 11.59pm ar 29 Tachwedd 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: £1,000 business resilience grants for UK small businesses | Enterprise Nation.