Oes gennych chi her arloesi a allai elwa o gymorth ymchwil?
Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio Cynllun Peilot Talebau Ymchwil Bwyd-Amaeth, sy'n cynnig chwe thaleb arloesi i gefnogi prosiectau ymchwil gymhwysol ar gyfer busnesau, ffermydd, sefydliadau'r gadwyn gyflenwi a grwpiau cymunedol yng Nghymru.
Mae'r talebau yn rhoi 50% o gyllid tuag at becyn cymorth ymchwil gan alluogi sefydliadau i ymchwilio i’r heriau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd, lleihau carbon, cynhyrchiant, effeithlonrwydd adnoddau, cynhyrchion newydd, neu brosesau gwell.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael:
- Cyfle i ddatblygu eu prosiectau ymchwil a chael gwaith cwmpasu
- Hyfforddiant ymchwil arbenigol
- Goruchwyliaeth academaidd gan arbenigwyr Prifysgol Aberystwyth
Bydd y prosiectau yn seiliedig ar y gweithle, gan fynd i'r afael â heriau busnes y byd go iawn a chynhyrchu canlyniadau ymarferol y gellir eu defnyddio'n uniongyrchol o fewn y sefydliad.
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 31 Awst 2026 11.59pm. Gwnewch gais nawr.
Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.