Mae £15 miliwn bellach ar gael drwy Gynllun Sbarduno Cadwyn Gyflenwi Ystad y Goron i gefnogi busnesau a phrosiectau'r gadwyn gyflenwi ynni gwynt ar y môr ledled y DU.
Yn dilyn dau gylch llwyddiannus, lle y dyfarnwyd bron i £18 million i 26 o sefydliadau, gan gynnwys prosiectau ym Mhort Talbot ac Orkney, mae trydydd cylch bellach ar agor.
- Y cyllid sydd ar gael: £250,000 - £ 2 filiwn
- Hyd at 50% o gyllid cyfatebol
- Cymorth ar gyfer prosiectau sydd ar gamau datblygu cynnar
- Ar agor i fusnesau ledled y DU
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2026.
I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, ewch i: £15m available for UK offshore wind supply chain funding through The Crown Estate’s Supply Chain Accelerator.