Cyfarfu'r panel cynghori arbenigol annibynnol sy'n cynghori'r llywodraeth ar ddyluniad yr asiantaeth datblygu economaidd newydd yng Nghaerdydd ar 21 Hydref 2026.
Cyfarfu'r panel o 11 o arbenigwyr busnes blaenllaw, o dan arweiniad y Cadeirydd Jonathan Lewis, â'r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price.
Yn y cyfarfod agoriadol, sefydlwyd dealltwriaeth o'r dirwedd economaidd bresennol a materion sy'n dod i'r amlwg, a dechreuwyd trafod blaenoriaethau ar gyfer gwaith y panel yn y dyfodol. Dechreuwyd hefyd ar y broses o gysylltu â sefydliadau sydd ag aelodau, megis CBI, FSB a Make UK, a thrafodwyd sut y byddent yn ymgysylltu â busnesau eraill ledled Cymru i gasglu tystiolaeth a syniadau.
Disgwylir i'r panel ddod ynghyd dros gyfnod o tua chwe mis cyn cynhyrchu ei adroddiad terfynol a'i argymhellion.
Bydd argymhellion y panel yn elfen ganolog o raglen Llywodraeth Cymru i gyflawni'r asiantaeth newydd.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cyfarfod cyntaf y panel arbenigol sy'n cynghori ar asiantaeth datblygu economaidd newydd | LLYW.CYMRU.