Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i’n Rheolwyr Perthnasoedd RCT arbenigol. Y mis hwn, dyma gwrdd â Mandy Weston, arweinydd busnes profiadol sy'n cyfuno arbenigedd corfforaethol â phrofiad entrepreneuraidd ymarferol i helpu busnesau Cymru i ehangu'n hyderus.
Mae gan Mandy dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gwasanaethau sy’n werth miliynau o bunnoedd. Treuliodd chwe blynedd yn gweithredu ar lefel bwrdd wrth ennill gradd mewn Rheoli Busnes, gan arbenigo mewn Rheoli Newid.
Yn 2017, cydsefydlodd Mandy Town Square Spaces, lle mae'n gwasanaethu’n Brif Swyddog Gweithredu. Mae'r cwmni'n creu mannau cydweithredol a chymorth wedi'i deilwra ar gyfer entrepreneuriaid, gan helpu cymunedau lleol i ffynnu. O dan ei harweinyddiaeth, mae Town Square wedi tyfu i dros £4 miliwn o drosiant wrth gyflawni prosiectau ar raddfa fawr ledled Cymru.
Yn Rheolwr Perthnasoedd RCT, mae Mandy yn arbenigo mewn cefnogi busnesau o'r cyfnod cyn dechrau hyd at dwf cyfnod cynnar. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Cronfa Datblygu Gwledig Caerffili, yn Is-gadeirydd Clwb Busnes Caerffili, yn aelod ymgynghorol o Ganolfan y Fron Cymru ac yn Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru. A hithau wedi goroesi canser y fron, mae Mandy yn defnyddio ei hamser rhydd i godi arian ar gyfer Canolfan y Fron Caerdydd a'r Fro.
Dyma ni’n gofyn i Mandy rannu beth sy'n ei gyrru hi a'r cyngor y mae'n ei gynnig amlaf i fusnesau sy'n tyfu.
Beth a’ch denodd chi gyntaf i weithio gyda busnesau twf uchel?
Trwy Town Square Spaces, rydyn ni’n datblygu gofod cydweithio a swyddfa ar gyfer busnesau o bob maint. Dros y blynyddoedd, buom yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fusnesau o rai cyn dechrau i BBaCh a rhedeg clybiau cychwynnol i'w helpu nhw i ddatblygu. Fe wnaethom sylweddoli potensial rhai o'r mentrau hyn yn gyflym a lansio cyflymydd i ddenu rhagolygon newydd. Cyn hir, roeddwn i'n hyfforddi busnesau a dyma fi’n darganfod angerdd go iawn dros ddarparu'r math hwn o gymorth.
Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd yn RCT?
Mae ansawdd y cymorth un-i-un rydyn ni’n ei gynnig ymhlith y gorau sydd i’w gael, ac mae bob amser yn rhoi boddhad mawr i mi pan fydd rhywun wir yn gwerthfawrogi'r arweiniad maen nhw wedi'i dderbyn. Mae'r cysylltiadau rydw i'n gallu eu gwneud yr un mor werthfawr, boed yn gysylltu cleientiaid â darpar gyflenwyr, cwsmeriaid neu ddarparwyr gwasanaethau.
Beth yw’r darn gorau o gyngor busnes i chi ei roi neu ei gael erioed?
Cofiwch nad ydych chi’n arbenigwr ar bopeth. Datblygwch eich maes arbenigedd ac wedyn rhowch bobl o’ch cwmpas chi a all eich helpu chi gyda’r swyddogaethau eraill. Gall hyn fod ar sawl ffurf: talu am wasanaethau, cyfnewid amser neu arbenigedd, neu gynnig ecwiti chwys. Mae meddwl agored a bod yn greadigol yn y maes hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Beth yw’r un nodwedd rydych chi’n ei gweld yn yr arweinwyr busnes mwyaf llwyddiannus?
Yn achos busnesau sydd â thimau, y gallu i wrando ar bobl o'ch cwmpas chi yw hi a rhoi'r bobl iawn yn y rolau cywir fel y gallwch chi ddirprwyo a thyfu. Yn achos entrepreneuriaid ac unig fasnachwyr, y parodrwydd i dderbyn cymorth a chyngor gan eraill i helpu i gau bylchau sgiliau.
Sut ydych chi’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?
Rwy wrth fy modd yn yr awyr agored ac mae gen i gi, felly mae cerdded i glirio fy mhen yn hanfodol. Ac mae bod yn fam-gu i dri o wyrion yn cynnig y difyrrwch gorau.
Beth yw’r un peth yr hoffech chi i bob un o fusnesau RCT ei wybod?
Mae'r rhaglen a'r bobl sy'n cymryd rhan yma i'ch helpu chi i lwyddo ac i'ch cefnogi chi pan allai hi fod yn anodd.
Pa heriau rydych chi’n helpu cleientiaid i’w goresgyn gan amlaf?
Yn achos busnesau newydd, rhagor o werthiant yw hi o hyd. Y gamp yw mynd i mewn i fanylion beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, boed yn frandio, y cyfryngau cymdeithasol, cynnwys, neu welliannau gwefan. Ar gyfer busnesau mwy sefydledig, yn aml rwy’n gweithio gyda chleientiaid i gamu yn ôl ac adolygu ble maen nhw arni a ble maen nhw eisiau mynd. Mae’n hawdd ymgolli yn y gwaith o ddydd i ddydd ac anghofio’r pen draw.
Allwch chi rannu ennyd rydych chi’n falch ohono o’ch amser chi yn RCT?
Rydw i bob amser yn falch pan fydd un o'm busnesau i’n ennill gwobr, yn cael sylw yn y wasg, neu'n ymddangos ar restr 'y rhai i'w gwylio'. Hoffwn i feddwl fy mod i wedi chwarae rhan fach yn eu llwyddiant.
Ac i gloi, beth yw eich prif gyngor chi i berchnogion busnes uchelgeisiol?
Peidiwch â cheisio mentro ar eich pen eich hun. Sicrhewch fod pobl gadarnhaol o’ch cwmpas chi sydd â sgiliau sy’n ategu eich rhai chi ac a fydd yn eich cefnogi chi ar eich taith.