Blogiau

Cwrdd â’ch Rheolwr Perthnasoedd: Gwenllian Owen

Lady sitting on a bench smiling

Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i'r Rheolwyr Perthnasoedd arbenigol sydd y tu ôl i gymorth y Rhaglen Cyflymu Twf ar gyfer busnesau twf uchel ledled Cymru. Y mis hwn, dyma Gwenllian Owen, hyfforddwraig, adeiladwraig gymunedol a hyrwyddwr busnesau yng Nghymru sydd â thros ddau ddegawd o brofiad o helpu arweinwyr uchelgeisiol i dyfu.

Mae gyrfa Gwenllian yn ymestyn dros lywodraeth leol, cynghorau menter, rhaglenni arweinyddiaeth prifysgolion ac arloesi mewn parciau gwyddoniaeth. Mae ei llwybr wedi mynd â hi o'r Cyngor Hyfforddiant a Menter yn 1999 i ymgynghori â chwmnïau sy'n canolbwyntio ar dwf ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru ar gyfer Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru. Ar hyd y daith, arweiniodd hi raglenni LEAD Cymru, ION Leadership a Thwf Busnes 20Twenty ym Mhrifysgol Bangor am 11 mlynedd, gan gefnogi dros 750 o bobl. Mae hi hefyd yn rhedeg ei busnes ei hun, sy'n cynnig cymorth ar arweinyddiaeth, rheolaeth a datblygu timau i sefydliadau ar draws Cymru.

Gofynnon ni i Gwenllian rannu beth sy'n ei chymell, beth mae hi wedi'i ddysgu a'r cyngor mae hi'n ei roi gan amlaf.

Beth a’ch denodd chi gyntaf i weithio gyda busnesau twf uchel?

Daeth gweld busnesau'n tyfu â mwy o foddhad i mi nag unrhyw beth arall roeddwn i wedi'i wneud. Ymunais i â'r Cyngor Hyfforddiant a Mentro yn ôl yn 1999, a dyna’r trobwynt. Cefnogi busnesau drwy newid, datblygu'r perthnasoedd hynny a gweld beth sy'n bosibl pan gaiff pobl y cymorth cywir. Sylweddolais i'n gyflym mai dyna yn union lle roeddwn i eisiau bod.

Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd yn RCT?

Y fraint o weithio gyda chymaint o fusnesau rhagorol sy'n tyfu. Mae pawb yn wahanol, ac mae pob cynllun twf yn cyflwyno’i heriau a'i gyfleoedd ei hun. Dyw bod yn rhan o'r daith honno a helpu pobl i gyflawni eu nodau busnes uchelgeisiol byth yn ddiflas.

Beth yw’r darn gorau o gyngor busnes i chi ei roi neu ei gael erioed?

Cred ynot ti dy hun ac atega hynny trwy weithredu. Pan wnes i ymgeisio am fy swydd gyntaf mewn cymorth busnes, dwedodd rhywun wrthyf: “Wrth gwrs y gelli di wneud hyn. Byddi di’n difaru os na wnei di gais.” Arhosodd y geiriau hynny gyda mi a rhoi’r hyder i mi fentro. Rwy'n ceisio trosglwyddo'r un gred honno i'r perchnogion busnes rydw i'n gweithio gyda nhw.

Beth yw’r un nodwedd rydych chi’n ei gweld yn yr arweinwyr busnes mwyaf llwyddiannus?

Gwydnwch, heb os. Y gallu i gadw pethau i symud ymlaen pan na fydd y cynllun cyntaf yn llwyddo. Mae perchnogion busnes llwyddiannus yn addasu'n gyflym, yn dysgu o beth na weithiodd ac yn dal i ganolbwyntio hyd yn oed o dan bwysau. Boed yn syniad sydd wedi methu neu'n her ariannol, gwydnwch sy'n eu cadw nhw yn y gêm.

Sut ydych chi’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Rwy'n ffynnu ar heriau corfforol a meddyliol. Rwyf wedi cwblhau pedair Her Ultra, taith gerdded Moonwalk Canser y Fron, hanner marathon a digwyddiad Milwyr Ymladd. Mae nofio mewn dŵr oer yn fy sadio’n barhaus. Mae grŵp ohonom ni sy'n cwrdd bob penwythnos, a does dim byd tebyg i’r rhyddid a'r wefr sy'n dod gyda hynny.

Rwy hefyd yn un o aelodau sefydlu Adlais, côr lleisiau cymysg lleol a gafodd ei sefydlu ym 1991. Rydyn ni wedi cystadlu, perfformio a theithio i rai lleoedd arbennig gyda'n gilydd. Mae llawenydd go iawn mewn cymuned o’r fath.

Beth yw’r un peth yr hoffech chi i bob un o fusnesau RCT ei wybod?

Blaenoriaethwch wrando yn hytrach na chyfarwyddo. Nid dim ond rhoi cyfarwyddiadau mae arweinwyr effeithiol yn ei wneud; maen nhw'n casglu canfyddiad gan eu tîm ac yn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau cliriach. Pan fydd pobl yn teimlo o ddifri fod eraill yn eu clywed go iawn, maen nhw'n ymddiddori’n fwy, yn dod yn fwy atebol ac yn barotach i fynd yr ail filltir.

Beth yw'r heriau mwyaf cyffredin rydych chi'n helpu busnesau i'w goresgyn?

Dod o hyd i dalent a'i chadw. Mae llawer o'r busnesau rwy wedi'u cynorthwyo dros y blynyddoedd wedi cael trafferth gyda recriwtio a chadw staff wrth iddyn nhw dyfu. Sicrhau bod y bobl gywir yn eu lle a chreu amgylchedd lle maen nhw am aros, yn aml, yw'r gwahaniaeth rhwng twf sy’n oedi a dechrau mynd o nerth i nerth mewn gwirionedd.

Allwch chi rannu moment rydych chi'n arbennig o falch ohoni yn eich gwaith chi gyda RCT?

Fi yw aelod mwyaf newydd tîm Rheolwyr Perthnasoedd RCT, ac rwy eisoes wedi cysylltu busnesau â'r union gymorth ar yr union adeg. Mae'r cyflwyniadau hynny wedi eu helpu nhw i wireddu nodau roedden nhw wedi bod yn gweithio tuag atyn nhw ers tro. Mae gweld hynny'n digwydd yn gyflym yn dod â boddhad anhygoel.

Ac i gloi, beth yw eich cyngor cyntaf chi i berchnogion busnes uchelgeisiol?

“Os ceisiwch chi wneud popeth, fel arfer byddwch chi’n gorymestyn a chaiff dim byd ei wneud yn dda iawn.” Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n cryfhau eich prif gynnig, sy’n gwella eich proffidioldeb, neu sy'n gwneud i’ch cwsmeriaid barhau i ddod yn ôl. Meddyliwch yn hir ac yn galed cyn ychwanegu unrhyw beth arall.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.