Blogiau

Cwrdd â’ch Rheolwr Perthnasoedd: David Selwyn, o fusnes technoleg newydd i gynghorydd twf strategol

Man looking at camera in fields

Yn y gyfres hon, rydyn ni’n eich cyflwyno chi i’n Rheolwyr Perthnasoedd arbenigol. Y mis hwn, dewch i gwrdd â David Selwyn, y mae ei brofiad o dwf cyflym yn llunio sut mae'n cefnogi busnesau uchelgeisiol Cymru heddiw.

Mae David yn Rheolwr Gyfarwyddwr ymgynghoriaeth fusnes arobryn sydd wedi'i lleoli yn Sir Gaerfyrddin, ac yn Rheolwr Perthnasoedd achrededig i’r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT). Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn ymgynghorydd busnes, mae wedi helpu busnesau ledled Cymru i lunio strategaethau twf, sicrhau buddsoddiad a symud y rhwystrau ymarferol rhag twf.

Mae'n rheoli portffolio o fwy na 60 o fusnesau twf uchel ar draws bwyd a diod, gweithgynhyrchu, technoleg, twristiaeth, gwasanaethau proffesiynol, gofal iechyd a'r economi wledig. Mae'n helpu perchnogion i nodi eu heriau mwyaf a chydlynu'r cymorth arbenigol cywir drwy RCT.

Un o’i gryfderau penodol yw troi syniad uchelgeisiol yn gynllun clir a chredadwy, gan dynnu ar brofiad dwfn mewn cynllunio busnes, rhagolygon ariannol a llwybrau ariannu gan gynnwys Banc Datblygu Cymru, banciau a grantiau.

Dyma ni’n gofyn i David rannu beth sy'n ei yrru a'r cyngor y mae'n ei gynnig amlaf i fusnesau sy'n tyfu.

Beth a’ch denodd chi gyntaf i weithio gyda busnesau twf uchel?

Fy mhrofiad fy hun o adeiladu busnes technoleg i drosiant gwerth miliynau o bunnoedd mewn 18 mis, cyn ei werthu ymlaen. Dangosodd i mi pa mor gyffrous yw twf cyflym a faint o bwysau y mae'n ei roi ar lif arian, pobl a chapasiti rheoli. Rwy'n cael fy nenu at helpu arweinwyr uchelgeisiol i droi syniadau cryf yn fusnesau cynaliadwy.

Beth yw’r rhan fwyaf buddiol o fod yn Rheolwr Perthnasoedd yn RCT?

Gwylio cymorth arbenigol yn troi'n ganlyniad go iawn. Efallai y bydd busnes yn dod at RCT gyda syniad mawr ond yn wynebu rhwystrau megis cyllid, recriwtio neu ehangu. Mae'n arbennig o fuddiol pan fydd y gwaith hwnnw'n arwain at fuddsoddiad, cynnyrch newydd, swyddi newydd neu'r cam twf nesaf.

Beth yw’r darn gorau o gyngor busnes i chi ei roi neu ei gael erioed?

"Os nad ydych chi'n gwybod ble rydych chi am fynd, does dim ots pa lwybr a gymerwch chi." Mae'n uniongyrchol berthnasol i strategaeth. Rwy hefyd yn dweud wrth arweinwyr busnes am ddeall eu rhifau cyn iddyn nhw wneud penderfyniad. Nid yw twf yn golygu mwy o elw na llif arian cryfach yn awtomatig.

Beth yw’r un nodwedd gyffredin rydych chi’n ei gweld yn yr arweinwyr busnes mwyaf llwyddiannus?

Maen nhw’n agored i her ac yn barod i addasu. Maen nhw'n gwrando ar gwsmeriaid, yn gwybod eu rhifau ac yn newid cyfeiriad pan fo angen. Maen nhw hefyd yn gwybod nad y sgiliau sy'n dechrau busnes yw'r sgiliau sy'n ei dyfu bob amser.

Pan nad ydych chi'n helpu busnesau i dyfu, sut ydych chi'n ymlacio?

Cerddoriaeth fyw a dawnsio, yn bennaf. Rwy'n perthyn i nifer o glybiau dawnsio, gan gynnwys Roc a Rôl, Swing Jive, Lindy Hop a Rockabilly a'r rhan fwyaf o benwythnosau fe welwch chi fi allan gyda fy mhartner a ffrindiau mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae'n fy nghadw'n heini, yn effro ac mewn cysylltiad.

Beth yw’r un peth yr hoffech chi i bob un o fusnesau RCT ei wybod?

Mae cymorth RCT fwyaf gwerthfawr pan fydd busnesau'n agored ynglŷn â'r heriau gwirioneddol maen nhw'n eu hwynebu, boed hynny'n llif arian, capasiti rheoli neu orddibyniaeth ar y sylfaenydd. Rydyn ni yma i ddeall y darlun llawn, nid i farnu.

Beth yw'r heriau mwyaf cyffredin rydych chi'n helpu busnesau sy’n tyfu i'w goresgyn?

Mynediad at gyllid sy'n codi amlaf, ond yn anaml dod o hyd i gyllidwr yw’r unig her. Mae'n cynnwys adeiladu strategaeth glir, cynllun credadwy a rhagolygon cadarn i'w hategu. Rwy hefyd yn helpu gyda’r gallu i dyfu a blaenoriaethu, gan fod gan fusnesau uchelgeisiol yn aml fwy o gyfleoedd nag amser.

Allwch chi rannu achlysur rydych chi'n arbennig o falch ohono yn eich gwaith chi gyda RCT?

Cefnogi busnes dros y tymor hir gyda strategaeth, gwaith cynllunio a chyllid. Sicrhaodd tua £2.5 miliwn drwy grantiau, benthyciadau a disgowntio anfonebau, a thyfodd o dri gweithiwr a throsiant o £500,000 i tua 120 o weithwyr a throsiant o fwy na £30 miliwn. Mae canlyniadau fel yna'n dod o feithrin ymddiriedaeth a datblygu’r cymorth wrth i'r cwmni dyfu.

Pe gallech chi roi un darn o gyngor i bob perchennog busnes uchelgeisiol, beth fyddai hwnnw?

Dechreuwch adeiladu tîm cryf yn gynnar. Ar y dechrau, yn aml mae'n hanfodol i'r perchennog fod ym mhobman ar unwaith. Ond wrth i'r busnes dyfu, ni all unrhyw berchennog fod yn arbenigwr ar bopeth nac aros yn agos at bob penderfyniad. Ymddiriedwch mewn eraill i wneud eu gwaith a gadewch i'ch rôl ddatblygu o wneud popeth i bennu cyfeiriad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.